top of page
🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿 A Harpist's Guide to Progress ✦ Step 1 ✦ 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿 in WELSH

🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿 A Harpist's Guide to Progress ✦ Step 1 ✦ 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿 in WELSH

£5.00Price

“There is only one correct way to play the harp, and that is to play it well.”
Marcel Grandjany

 

Y llyfryn hwn yw’r cyntaf mewn cyfres o lyfrau sy’n rhoi arweiniad i delynorion i wella eu chwarae, gwneud cynnydd a symud i’r lefel nesaf.  Mae wedi’i ddatblygu ar ôl blynyddoedd o hyfforddi mewn gweithdai. Sylweddolais nad oedd rhai disgyblion wedi meistroli elfennau sylfaenol darllen cerddoriaeth, gwybodaeth theori, dulliau ymarfer a sicrwydd technegol, gan iddynt fod ar frys i symud ymlaen! Yn amlach na pheidio, roedd diffyg sylfaen dda yn arwain at deimlad o anniddigrwydd a chwaraewyr yn methu deall pam nad oeddent yn gallu chwarae yn rhugl.

Nid llyfr theori na llyfr dysgu telyn mohono. Arweiniad ydyw at wneud cynnydd yn y gwersi, ac wrth ymarfer. Llyfryn i’n hatgoffa o’r pynciau i’w hastudio yn rheolaidd. Mae pob llyfryn yn y gyfres yn cynnig pethau newydd i’w dysgu. Mae’r gyfres yn cynnwys: ymarferion cynhesu bysedd, sgiliau i wella darllen ar yr olwg gyntaf, sut i chwarae “harmonics”, sut i baratoi ar gyfer perfformiad a sut i ddysgu darnau ar y côf.....a llawer mwy!

CAM 1: Y pethau sylfaenol.  Gwnewch yn siwr eich bod yn hyderus ymhob maes a gweithiwch gyda’ch athro gam wrth gam yn araf deg.

bottom of page